Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 23
Chwefror 2016
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwasanaethau dan bwysau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? EAQ(4)0694(HSS)
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
(15 munud)
NDM5973 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ionawr 2016.
Dogfennau Ategol
Rheoliadau
Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol)
2016
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol -
- Dim pwyntiau adrodd
(30 munud)
NDM5968 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Tai a Chynllunio sy'n ymwneud â rhyddfreinio ac estyn lesddaliadau hir, i'r graddau y maent yn dod o dan gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y Deyrnas Unedig.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i) a (iii).
Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:
http://services.parliament.uk/bills/2015-16/housingandplanning.html (Saesneg yn unig)
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad
y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth
Leol
(5 munud)
NDM5969 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i'r Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:
a. Adrannau 2-36
b. Adrannau 38-81
c. Adran 37
d. Adrannau 83-116
e. Adran 82
f. Adrannau 118-156
g. Adran 117
h. Adrannau 157-170
i. Adrannau 172-184
j. Adran 171
k. Adrannau 185-195
l. Adran 1
m. Teitl Hir
(5 munud)
NDM5970 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yng Nghyfnod 3yn y drefn a ganlyn:
a. Adrannau 2 - 31
b. Atodlenni 1 a 3
c. Adrannau 32 - 52
d. Atodlen 2
e. Adrannau 53 - 57
f. Adrannau 59 - 96
g. Atodlen 4
h. Adran 58
i. Adrannau 97 - 117
j. Atodlen 5
k. Adrannau 118 – 126
l. Adran 1
m. Teitl Hir
(60 munud)
NDM5972 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2014-15.
Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Chwefror 2016.
Dogfen Ategol
Adroddiad
blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng
Nghymru ar gyfer 2014-15
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod adroddiad Estyn yn nodi "mewn ysgolion sydd ag arweinwyr llwyddiannus, ceir diwylliant cadarn o ddysgu proffesiynol a ffocws ar wella ansawdd addysgu a dysgu" ac yn credu y byddai talu premiwm addysgu i staff addysg tra chymwysedig sy'n cynnal eu datblygiad proffesiynol yn cyfrannu'n sylweddol at godi safonau addysgu.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod adroddiad Estyn eleni yn dangos bod angen gwneud mwy i leihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion ysgolion uwchradd sy'n cael prydau ysgol am ddim a'u cyfoedion.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu ar adeg pan fo nifer y disgyblion mewn ysgolion cynradd yn cynyddu, pan fo ysgolion yn cau, a phan fo prinder athrawon, fod dosbarthiadau llai ar gyfer babanod yn bwysicach nag erioed i roi amser i athrawon addysgu ein plant yn iawn.
(60 munud)
NDM5971 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnwys Adroddiad Terfynol y Ddyletswydd i Adolygu Asesiad Ôl-Ddeddfwriaethol o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
Dogfen Ategol
Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) - Dyletswydd i Adolygu – Adroddiad Terfynol
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn annerbyniol o uchel.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod targedau amseroedd aros cyfredol yn cuddio amseroedd aros am therapïau seicolegol sy'n aml yn hir ac yn galw am ddata mwy tryloyw a rheolaidd am amseroedd aros ar gyfer ymyriadau seicolegol.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 24 Chwefror 2016